Fel rhan o’r ymgyrch Ein Meddyliau Ein Dyfodol – Galwad i Weithredu, treuliwyd amser gyda Abby, 17 oed, i sgwrsio am ei phrofiadau iechyd meddwl personol:
Dweud wrthym amdanat ti, dy brofiad iechyd meddwl, ac unrhyw gefnogaeth rwyt ti wedi’i dderbyn gan wasanaethau.
ABBY: Dwi wedi cael profiadau da a drwg. Dwi wedi bod efo gwasanaethau iechyd meddwl ers oeddwn i tua 14 oed, ac wedi brwydro gydag anorecsia, OCD (Anhwylder Gorfodol Obsesiynol), iselder dwys a GAD (Anhwylder Gorbryder Cyffredinol). Mae gen i brofiad o driniaeth fel claf mewnol ac fel claf allanol gyda CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc). Rwyf hefyd wedi profi’r gwahaniaeth rhwng y system iechyd meddwl yng Nghymru ac yn Lloegr ar ôl i mi dreulio amser mewn unedau claf mewnol yn Lloegr. Mae gen i lot i ddweud am fy mhrofiadau a barn gref ar sut y gall pethau newid.
Gan adlewyrchu ar dy siwrne, pa gyfleoedd fydda ti yn ei osod i wneud pethau’n well/haws, yn enwedig wrth drawsnewid o wasanaethau plant i oedolion?
ABBY: Hoffwn weld gwell gofal i gleifion mewnol; dwi wedi bod mewn unedau gydag adnoddau prin iawn. Er esiampl, mewn un uned dim ond un set o ddillad gwrthglymu (anti-ligature) oedd yno, dim rhai sbâr i neb arall. Rwy’n credu hefyd dylid cael mwy o ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth; credaf fod yna ddiffyg dealltwriaeth o fewn gwasanaethau iechyd meddwl a dylid cynnig cefnogaeth well i blant sydd ddim yn yr ysgol neu ddim yn gallu mynd.
Sut wyt ti’n teimlo am y trawsnewidiad o wasanaethau plant i oedolion?
ABBY: Dwi’n troi’n 18 fis Medi ac mae wedi bod yn eithaf anodd darganfod pethau am wasanaethau oedolion. Rwy’n ofni’r trawsnewidiad braidd.
Wyt ti wedi ei chael yn hawdd symud rhwng gwahanol wasanaethau fel person ifanc?
ABBY: Na, mae wedi bod yn anodd gorfod ailadrodd digwyddiadau a thrawmâu’r gorffennol i wahanol wasanaethau drwy’r adeg. Mae wedi bod yn anodd iawn dod allan o ofal claf mewnol i ofal yn y gymuned gan nad oes digon o ddealltwriaeth am y trawma gall ddigwydd fel claf mewnol.
Wyt ti wedi cael profiad lle roeddet ti’n teimlo’n anniogel, yn ddigroeso neu’n cael dy amharchu? Beth oedd yn gwneud i ti deimlo fel hyn?
ABBY: Dwi wedi teimlo amarch sawl gwaith. Un sydd yn aros yn y cof fwyaf oedd bod mewn argyfwng a’r heddlu yn cael eu galw, neu’r cyfnod pan oeddwn i yn yr adran damweiniau ac achosion brys a nyrs yn fy ngalw’n hunanol. Ar un ward, ychydig iawn o urddas oedd gen i gan nad oedd gen i fynediad i ddillad glan am ddyddiau. Cysgais yn yr un top am 4 wythnos gan nad oedd neb wedi rhoi un glân i mi ac roedd fy nillad dan glo.
Wyt ti wedi cael cyfle i siarad gyda phrif ddylanwadwyr ac/neu i’r bobl sydd yn gwneud y penderfyniadau am dy brofiad? Os ddim, beth fyddet ti’n hoffi gofyn iddynt ei wneud?
ABBY: Na, dwi ddim, ond byddwn i wir yn hoffi siarad â nhw am y diffyg gwlâu i gleifion mewnol yng Nghymru.
Pwy yw’r prif ddylanwadwyr a rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau byddet ti’n hoffi siarad â nhw?
ABBY: Hoffwn siarad gyda Gweinidogion y Llywodraeth a hoffwn gael cefnogaeth trwy hyfforddiant a gwybodaeth am y ffordd orau i wneud hyn.
Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn ymdrechu i roi cefnogaeth a llais fel bod pobl ifanc fel Abby yn teimlo bod gwerthfawrogiad o’u hymdrech i wneud newid.
Bwriad yr ymgyrch Galwad i Weithredu yw gwella’r gefnogaeth i bobl ifanc gan wasanaethau iechyd meddwl Cymru wrth wthio iddynt gyrraedd y 5 gofyniad. Cafodd y 5 gofyniad eu creu gan bobl ifanc fu’n ddewr iawn yn rhannu eu profiadau personol ac wedi darganfod datrysiadau i’r problemau oedd yn eu hwynebu wrth gael mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae’n hanfodol bod y neges yma yn cyrraedd unrhyw un gall gyfrannu i newid ac sydd yn barod i helpu gweithredu’r gofynion yma fel bod gwelliant yn y gefnogaeth cynigir i iechyd meddwl pobl ifanc.
Gellir darllen straeon pobl ifanc eraill EMED yma, neu ddarganfod mwy am gymryd rhan yn yr ymgyrch yma.