Tystiolaeth David

Fel rhan o’r ymgyrch Ein Meddyliau Ein Dyfodol – Galwad i Weithredu, cawsom gyfle i eistedd i lawr gyda David, sydd yn 16 oed, i holi am ei siwrne iechyd meddwl. 

Dweud wrthym amdanat ti ac unrhyw gefnogaeth iechyd meddwl rwyt ti wedi’i dderbyn? 

DAVID: Rwyf wedi bod yn rhan o CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) ers tua 3 mlynedd ac wedi derbyn CBT (Therapi Ymddygiad Gwybyddol). Mae’r tîm argyfwng wedi gwneud sawl asesiad arnaf ac rwy’n disgwyl canlyniadau asesiad seicosis ar hyn o bryd. 

Sut wyt ti’n teimlo am y trawsnewidiad o wasanaethau plant i oedolion? 

DAVID: Dylai CAMHS wneud yr hyn sy’n ofynnol arnynt ei wneud a helpu pobl ifanc fydd yn derbyn cefnogaeth gan dimau iechyd meddwl oedolion lleol gyda’r trawsnewidiad yma. 

Ydy gwasanaethau iechyd meddwl wedi dy gefnogi/trin fel person cyfan? 

DAVID: Na. Dros y blynyddoedd rwyf wedi bod mewn sefyllfaoedd lle chwalwyd fy urddas ac roedd fy mhryder am ddiogelwch fy hun ac eraill yn cael ei anwybyddu. Mae cyfathrebu wedi bod yn wael iawn ac rwyf wedi cael fy ngalw’n gelwyddwr oherwydd nodiadau yn cael eu drysu. 

Fedri di rannu cyfnod pan rwyt ti wedi teimlo’n anniogel, yn ddigroeso neu’n cael dy amharchu? 

DAVID: Roeddwn yng nghanol episod ac roedd fy mhen yn taro yn erbyn y wal yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Nid oedd y staff wedi’u cyfarpar i reoli hyn a gwrthododd y nyrs argyfwng ddod ataf. 

Oes cyfnod ar dy siwrne lle roeddet ti’n teimlo’n ddiogel, ac yn cael dy groesawu a’th barchu? 

DAVID: Eisteddodd nyrs iechyd meddwl gyda fi’n chwarae cardiau a siarad trwy’r dydd. Nid oedd hynny wedi datrys fy mhroblem, ond roedd yn gwneud i mi deimlo’n well am orfod disgwyl yn hir i gael fy ngweld. 

Gan adlewyrchu ar dy brofiadau, oes unrhyw gyfleoedd wedi bod i fynegi dy fodlonrwydd neu anfodlonrwydd gyda gwasanaethau iechyd meddwl? 

DAVID: Oes, mae cwynion rheolaidd wedi’u gwneud ond ychydig iawn o weithredu sydd wedi digwydd. 

Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn ymdrechu am weithrediad, i sicrhau bod pobl ifanc fel David yn teimlo cefnogaeth a gwerth. Mae’r ymgyrch Galwad i Weithredu yn cael ei arwain gan bobl ifanc ledled Cymru gyda’r bwriad o wella’r gefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y 5 gofyniad. 

Gellir darllen straeon pobl ifanc eraill EMED yma, neu ddarganfod mwy am gymryd rhan yn yr ymgyrch yma