Fel rhan o’r ymgyrch Ein Meddyliau Ein Dyfodol – Galwad i Weithredu, cawsom gyfle i eistedd i lawr gydag Oliver, sydd yn 20 oed, a fu’n rhannu ychydig o’i brofiad personol gan egluro‘r angen am gefnogaeth well yn ei siwrne iechyd meddwl.
Gan adlewyrchu ar dy siwrne, beth gall gwasanaethau ei weithredu i wneud pethau’n haws?
OLIVER: Credaf fod angen mwy o gefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, yn enwedig o gwmpas amser TGAU. Rwyf hefyd yn dymuno gweld rhestrau aros byr (neu dim rhestr aros) ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl. Dwi’n deall bod hyn yn beth anodd ei wireddu, ond mae’n ffactor mawr fydda wedi gwneud fy mhrofiad i yn un gwell. Wrth i bethau ymestyn yn hirach, gall fod yn anoddach i dderbyn cefnogaeth ar ôl wythnosau o ddisgwyl.
Ydy symud rhwng gwahanol wasanaethau wedi bod yn hawdd?
OLIVER: I mi do, ond rwyf wedi tueddu aros gyda’r un math o wasanaeth (iechyd meddwl) felly mae’r cyflwyniad i bobl a gwasanaethau newydd wedi bod yn eithaf hawdd.
Dweud wrthym am gyfnod ar dy siwrne ble roeddet ti’n teimlo’n ddiogel, ac yn cael dy groesawu a’th barchu. Beth oedd yn gwneud i ti deimlo fel yna?
OLIVER: Pan es i swyddfa Hafal am y dydd i helpu cyfweld pobl am swydd yn y cwmni. Ar gychwyn y dydd roeddwn yn dioddef o gorbryder drwg ond roedd pawb yn dawel iawn ac yn fy helpu i fod yn rhan o’r tîm. Arhosais am y diwrnod i gyd yn y diwedd, cael llawer o hwyl, a chyfrannu lot.
Dros y 12 mis diwethaf, gyda llawer o wasanaethau wedi symud ar-lein oherwydd COVID-19, sut brofiad yw hyn i ti?
OLIVER: Mae rhai pethau yn dda, ond yn gyffredinol dwi’n teimlo mwy o gorbryder gan fod i’n casáu galwadau fideo grŵp a galwadau ffôn yn gyffredinol. Rwyf wedi cael trafferth teimlo’n gyfforddus yn gwneud unrhyw beth, ond dwi’n dod i arfer yn araf bach ac yn magu ychydig mwy o hyder.
Wyt ti wedi cael cyfle i siarad gyda phrif ddylanwadwyr neu’r bobl sydd yn gwneud y penderfyniadau am dy brofiad?
OLIVER: Dwi wedi siarad gyda gweithwyr cefnogol a rheolwyr ond neb yn gyhoeddus – dim gweinidogion, y wasg neu debyg.
Pwy yw’r prif ddylanwadwyr a rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau byddet ti’n hoffi siarad â nhw?
OLIVER: Hoffwn siarad ag unrhyw un a gyda phawb. Hoffwn fod mewn rhaglenni dogfen am iechyd meddwl er mwyn gallu rhannu fy mywyd a fy mhrofiadau.

Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn ymdrechu i roi cefnogaeth i bobl ifanc fel Oliver sydd yn awyddus i wella gwasanaethau llesiant emosiynol ac iechyd meddwl. Mae’r ymgyrch Galwad i Weithredu yn cynnwys y prif flaenoriaethau i bobl ifanc ledled Cymru – sy’n cael eu hadnabod fel y 5 gofyniad. Manylion pellach am y 5 gofyniad yma.
Gellir darllen straeon pobl ifanc eraill EMED yma, neu ddarganfod mwy am gymryd rhan yn yr ymgyrch yma.