Mae pobl ifanc yn ymgyrchu am 5 gorchymyn o fewn Galwad i Weithredu – Ein Meddyliau Ein Dyfodol er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Gellir darllen mwy am y gofynion yma.
Pobl ifanc fel fi sydd wedi creu’r 5 gorchymyn yma, wedi’i selio ar ein profiad ni o iechyd meddwl, y broblemau oedd yn gwynebu ni, a’r newidiadau hoffem ei weld er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym eisiau i bawb ystyried y gofynion yma: pobl ifanc, aelodau’r teulu, gweithwyr proffesiynol a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau. Er mwyn helpu ti i ddeall y pwysigrwydd, hoffwn rannu fy mhrofiad personol o iechyd meddwl a pam bod y gofynion yma’n bwysig i mi.
Gorchymyn 1 – Rydym eisiau dull canolog i bobl ifanc 16-25 oed i ddarganfod a chael mynediad i gefnogaeth
Roeddwn yn brwydro gyda fy iechyd meddwl ym mhennod olaf fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd, yn ystod y chweched dosbarth. Mewn addysg orfodol gwyddwn yn union ble i gael mynediad i gefnogaeth. Ar ôl gadael y chweched yn 18 oed a chymryd blwyddyn bwlch, nid oedd gen i unlle i fynd. Roedd gadael addysg yn golygu dros flwyddyn heb fynediad i gefnogaeth cyn i mi fynd i’r brifysgol, lle’r oedd posib cael mynediad i gefnogaeth os oedd angen.
Mae llawer o bobl ifanc, gan gynnwys fi, yn llithro drwy’r rhwyd ac yn mynd ar goll unwaith i ni droi’n 18 oed gan nad allem gael mynediad i wasanaethau plant. Rydym yn gofyn am fwy o gefnogaeth yn y cyfnodau trawsnewid rhwng yr holl wasanaethau.

2 – Rydym eisiau gweld gwasanaethau yn defnyddio dull holistig i weithio’n dda gyda’i gilydd i’n helpu
Mewn rhai sefyllfaoedd penodol roedd fy iechyd meddwl wedi dod yn frwydr anoddach, fel pan gafodd mam ddiagnosis canser, neu pan farwodd fy mam-gu. Gan fod iechyd meddwl yn cwmpasu pob agwedd o’n bywydau, mae profiadau negyddol yn gallu gwaethygu pethau. Hoffwn i fod wedi derbyn cefnogaeth gan wasanaethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cefnogaeth, yn hytrach nag teimlo fel bod rhaid symud rhwng gwahanol wasanaethau cefnogol heb unrhyw gysondeb. Dylai gwasanaethau weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd, yn hytrach nag gweithio ar ben eu hunain neu gystadlu yn erbyn ei gilydd.
3 – Rydym eisiau mynediad i osodiadau wyneb i wyneb ac ar-lein sydd yn ddiogel, yn groesawus, ac yn barchus Roedd fy sesiynau cwnsela yn digwydd wyneb i wyneb yn ystod amser ysgol. Roedd rhaid gadael y wers, neu gael amser cinio llai. Roeddwn yn teimlo’n gaeth mewn gofod bach, cyfyng, diarth, gyda pherson nad oeddwn yn teimlo y gallwn fod yn agored â nhw. Roedd gorfod gadael y wers neu sgwrs i fynd am sesiwn cwnsela yn anghyfforddus ac yn codi cywilydd. Er hynny, teimlais fel bod rhaid i mi dderbyn yr hyn oedd yn agored i mi, yn hytrach nag teimlo fel y gallwn i fynychu sesiynau cwnsela oedd yn gweddu fy anghenion a’m ffafriaeth i. Y teimlad oedd bod rhaid derbyn neu wneud heb, heb unrhyw opsiwn arall yn agored i mi. Fel person ifanc gyda thechnoleg o’m nghwmpas ymhobman, byddwn i wedi bod yn llawer mwy cyfforddus yn cael mynediad i gwnsela gartref yn ystod y nosweithiau, gyda rhywun roeddwn i’n teimlo y gallwn i weithio’n dda â nhw, yn hytrach na’r person oedd wedi’i benodi i mi.

4 – Rydym eisiau i ddylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau i wrando arnom, i glywed ein llais ac i fod yn atebol i ni
Roedd yn anodd i mi fynegi’r hyn roeddwn i eisiau ei ddweud mewn ffordd briodol wrth i mi dyfu. Er hynny, rwyf wastad wedi bod yn eithaf uchel a ddim ofn dweud fy nweud. Rwy’n deall bellach efallai nad oedd hyn yn deg ar y bobl ifanc eraill oedd ychydig llai lleisiol, neu ddim yn cael eu hannog i rannu meddyliau, teimladau a phrofiadau. Byddai cael oedolion sydd yn gallu gwrando ar lais HOLL bobl ifanc a mynegi eu profiadau yn werthfawr iawn i greu newid ystyrlon.
5 – Rydym eisiau gweld gweinidog gyda phortffolio ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed
Nid yw’n ddigon i wrando ar bobl ifanc a mwyhau eu llais. Rydym angen cymorth gan y rhai sydd yn gallu gwneud penderfyniadau i sicrhau bod pobl ifanc wrth galon penderfyniadau i bobl ifanc. Rydym yn gobeithio gweld gweinidog gyda phortffolio i blant a phobl ifanc sydd yn rhoi gwybodaeth, sgiliau, cyngor, triniaeth ac eiriolaeth o ansawdd, mewn ffordd sydd yn ein gweddu ni orau.
